Turning Point Cymru
English version of text
Mae Turning Point Cymru yn ran nodedig o Turning Point. Rydym yn cyfuno ein profiad o ddarparu gofal cymdeithasol effeithiol trwy’r DU gyda chanolbwynt ar deilwra gwasanaethau tuag at anghenion cymunedau lleol.
Rydym yn ymrwymedig i ddatblygu ein gwaith ledled Cymru a rydym yn ymfalchïo mewn darparu gwasanaethau arloesol sy’n newid cyfeiriad bywydau defnyddwyr ein gwasanaeth. Anghenion pobl Cymru yw canolbwynt Turning Point Cymru a mae hyn yn cynnwys polisiau penodol, trefn lywodraethol a materion iaith.
Rydym yn darparu triniaeth gysylltiedig i bobl gydag anghenion cymdeithasol cymhleth – asesu’r person cyfan cyn cynllunio a darparu gwasanaethau iddynt mewn ffordd unigryw.
Mae ein staff brwdfrydig yn gweithio gydag ystod o weithwyr proffesiynol ac asiantaethau partner, o wasanaethau cymdeithasol i’r gyfundrefn cyfiawnder troseddol a Chanolfan Byd Gwaith. Rydym yn dysgu trwy brofiad llaw gyntaf ein defnyddwyr ac yn cymhwyso hyn ar draws pob rhan o’r gyfundrefn er mwyn gwella’n gyson, o gynhyrchu cynlluniau gofal unigol hyd at gynllunio a darparu gwasanaethau a dylanwadu polisïau a strategaethau.
Cysylltwch â ni:
Gallwch gysylltu â ni i gael gwybod mwy am wasanaethau Turning Point Cymru.
Turning Point Cymru
57-59 Heol Eglwys Fair
Caerdydd
CF10 1FE
Ffôn: 02920 227 327
Ffacs: 02920 376 252
E-bost: TPCymru@turning-point.co.uk