English
Gweithio yng Nghymru
Mae Turning Point Cymru, sydd wedi gwreiddio'n ddwfn yng Nghymru,
yn rhan nodedig o Turning Point. Byddwn yn cyfuno ein profiad o
ddarparu atebion effeithiol ym maes gofal cymdeithasol ar draws y
DU, gyda phwyslais ar deilwra ein gwasanaethau i ddiwallu anghenion
y gymuned leol.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu ein gwaith ledled Cymru, ac rydym
yn ymfalchïo mewn datblygu gwasanaethau sy'n newid bywydau ac sy'n
diwallu gwahanol anghenion y rhai sy'n defnyddio ein gwasanaeth.
Mae gan Turning Point Cymru ffocws penodol ar anghenion pobl Cymru,
gan gynnwys materion yn ymwneud â pholisi, trefn lywodraethol ac
iaith.
Darparu gofal cydlynol
Byddwn yn cynllunio
ac yn darparu gwasanaethau sy'n cynnig dull cyfunol o ymdrin ag
anghenion cymdeithasol cymhleth pobl. Trwy ganolbwyntio ar yr
unigolyn yn hytrach nag ar y broblem ein nod yw darparu gofal
cydlynol, gan alluogi pobl i drawsnewid eu bywydau a'u helpu i fod
yn rhan o'u cymuned.
Gweithio mewn partneriaeth
Bydd ein staff
medrus yn gweithio gydag amrywiaeth o bobl broffesiynol ac
asiantaethau sy'n bartneriaid i ni, yn amrywio o'r gwasanaethau
cymdeithasol i'r system cyfiawnder troseddol a Chanolfan Byd
Gwaith. Hefyd, mae'n hollbwysig bod a wnelo defnyddwyr y gwasanaeth
â phob agwedd ar ein gwaith, o baratoi cynlluniau gofal unigol i
gynllunio a darparu gwasanaethau a dylanwadu ar bolisi a
strategaeth.
Ein gwasanaethau
Bydd ein gwasanaethau bob
amser yn dod o hyd i ddulliau newydd o gefnogi pobl ag anghenion
cymhleth. Byddwn yn gweithio gyda chomisiynwyr lleol i ddarparu'r
ateb gorau ar gyfer eu cymuned ac yn gweithio gyda'r cymunedau eu
hunain i sicrhau bod ein gwasanaethau'n berthnasol ac o fewn
cyrraedd. Bydd llawer o'n prosiectau yn darparu cyfuniad unigryw o
arbenigedd mewn iechyd meddwl, anabledd dysgu a chamddefnydd o
sylweddau, a hynny o fewn yr un gwasanaeth. Hefyd gallwn gynnig
cefnogaeth un-wrth-un i'r bobl hynny sydd wedi eu cau allan o
wasanaethau eraill oherwydd eu hymddygiad herfeiddiol.
Rydym wedi datblygu ystod o fodelau gwasanaeth arloesol ar draws
y sbectrwm o ofal cymdeithasol. Golyga hyn y gallwn gefnogi pobl ym
mha sefyllfa bynnag sy'n gweithio orau, gan amrywio o ganolfannau
galw heibio, cartrefi preswyl ac unedau dadwenwyno i garchardai a
gorsafoedd heddlu neu safle o ddewis defnyddiwr y gwasanaeth.
Turning Point Cymru brochure
Cysylltwch â ni
Gallwch gysylltu â ni i gael
gwybod mwy am wasanaethau Turning Point Cymru.
Turning Point Cymru
57-59 Heol Eglwys Fair
Caerdydd
CF10 1FE
Ffôn 02920 227 327
Ffacs 02920 376 252
E-bost TPCymru@turning-point.co.uk
Gwefan www.turning-point.co.uk/cymru